Bu farw Tristan Kerr, 17 oed, ar ôl cael ei drywanu mewn fflat yn Abertridwr ym mis Chwefror

Mae dyn 19 oed wnaeth drywanu bachgen 17 oed i farwolaeth yn Sir Caerffili wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth.

Mae Georgie Mears, o Gaerdydd, wedi'i gael yn euog o lofruddio Tristan Kerr, yn Abertridwr.

Bu farw Tristan Kerr ar ôl cael ei drywanu unwaith yn y galon a'r ysgyfaint chwith â chyllell 13.5cm o hyd mewn fflat yn Stryd Francis Isaf ar 5 Chwefror.

Penderfynodd rheithgor bod Connor Palfrey, 25 oed o Abertridwr, yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ddydd Mercher nesaf.

Cafwyd dau ddiffynnydd arall, Ricardo Elliot, 27, ac Elexi Manny, 25, yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad.

O'r chwith i'r dde: Connor Palfrey, Elexi Manny, Georgie Mears a Ricardo Elliot

Roedd Georgie Mears yn 18 oed adeg y digwyddiad, ac fe gyfaddefodd iddo drywanu Kerr yn ystod ffrae, ond roedd yn gwadu llofruddiaeth gan honni ei fod yn amddiffyn ei hun.

Dywedodd wrth Lys y Goron Casnewydd: "Rwy'n ofnadwy o sori, doeddwn i ddim yn bwriadu ei ladd."

Honnodd fod Tristan Kerr wedi ceisio ei ddyrnu a'i daclo wrth iddo fynd i mewn i'r ystafell fyw yn y fflat.

Dywedodd Mears ei fod yno i ddosbarthu dau fag o getamin gwerth £25 yr un i Tristan Kerr, a dywedodd ei fod yn gwybod bod gan y bachgen hanes o drais a defnyddio cyllyll.

Dywedodd ei fod yn ofni cael ei anafu'n ddifrifol, ar ôl gweld fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos Tristan Kerr yn rhedeg ar ôl Connor Palfrey gyda'i gi rai wythnosau ynghynt.

Honnodd Mears ei fod wedi cuddio'r gyllell yn ei drowsus, ond bod y gyllell wedi dod yn fwyfwy amlwg wrth i'r ffrae fynd yn ei blaen, a dywedodd ei fod yn ofni y byddai'n cael ei defnyddio yn ei erbyn.

Rhedodd Tristan Kerr allan o'r fflat ar ôl cael ei drywanu, ond cwympodd yn y stryd.

Ceisiodd nyrs nad oedd ar ddyletswydd atal y gwaedu, ond bu farw Kerr cyn y gallai gael ei gludo i'r ysbyty.

Daeth archwiliad fforensig o siaced Tristan Kerr o hyd i dri thoriad neu glwyf ar wahân.

Cafodd Tristan Kerr ei drywanu mewn fflat ar Stryd Francis Isaf, cyn cael ei weld yn disgyn i'r llawr y tu allan i dŷ gerllaw

Cafodd fersiwn Mears o'r digwyddiad ei herio gan Conah Davies, a oedd yn y fflat gyda Tristan Kerr ac a geisiodd ei helpu ar ôl iddo gwympo.

Dywedodd Conah Davies fod Mears wedi rhuthro i'r ystafell fyw gan "drywanu" Tristan Kerr.

Dywedodd fod Palfrey yna hefyd a bod ganddo ffon bren fel arf.

Dywedodd Ieuan Crane, a oedd yn byw yn y fflat, iddo weld Tristan Kerr yn rhedeg allan drwy'r drws cefn, ac iddo feddwl ei fod yn ddiogel.

Ond ychydig eiliadau'n ddiweddarach, daeth yn amlwg bod y bachgen wedi'i anafu'n ddifrifol.

Clywodd y llys fod Palfrey wedi mynd i mewn i'r ystafell fyw, tra bod y cyd-ddiffynnydd Ricardo Elliot, 27 oed, yn y cyntedd.

Roedd Elexi Manny, 25 oed, a oedd yn gyrru'r grŵp y diwrnod hwnnw, hefyd yn y fflat pan gafodd Kerr ei drywanu.

Gadawodd y pedwar y fflat a gyrru i Henffordd yng nghar Elexi Manny, lle cawson nhw eu harestio yn ddiweddarach.

Mae'r achos yn dilyn cyfres o wrandawiadau lle gwadodd y pedwar lofruddiaeth drwy fenter ar y cyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol